Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

1.    Mae’r papur hwn yn ymateb i’r materion a nodwyd gan y Pwyllgor yn ei e-bost ar 16 Medi oedd yn rhestru’r pynciau a’r wybodaeth y carai eu cael ymlaen llawn.

Fframwaith Strategol Amaethyddiaeth Cymru

2.    Bydd y fframwaith yn cynnig ffordd o weithio a fydd yn dod â llawer o’r polisïau a’r adolygiadau annibynnol gwahanol sydd wedi’u cynnal dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ynghyd.

 

3.    Mae’r ymgynghoriad arno bellach wedi dod i ben ac mae gwaith yn mynd rhagddo i ddadansoddi’r ymatebion iddo’n  fanwl. Menter ar y cyd yw hon – gyda a chyda chefnogaeth cyrff blaenaf y diwydiant gan gynnwys yr FUW, NFU Cymru, CLA Cymru, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth, y Ganolfan Datblygu Llaeth, Hybu Cig Cymru, Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru a Chymdeithas Ffermwyr Tenant Cymru.

 

4.    Hanfod ein gweledigaeth gytûn yw diwydiant amaeth modern, proffesiynol, cynaliadwy a phroffidiol. Gwaith mawr y misoedd nesaf fydd ffurfio Grŵp Partneriaeth i fynd i’r afael â’r weledigaeth honno a datblygu’r fframwaith strategol ymhellach.

Y Polisi Amaethyddol Cyffredin

 

5.    Agorodd Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ym misoedd cyntaf 2015 a daeth 16,535 o geisiadau i law (72% ohonynt, cyfran uchel, ar-lein). Mae Taliadau Gwledig Cymru wrthi’n prosesu’r ceisiadau hyn.

 

6.    Bydd taliadau BPS yng Nghymru yn raddol symud rhwng 2015 a 2019 at un gyfradd safonol.  Mae hynny’n golygu y bydd pob ffermwr sy’n hawlio’r BPS yn 2019 yn cael yr un faint o daliad yr hectar. Hefyd, bydd yna Daliad Ailddosbarthu ar y 54 hectar cyntaf a hawlir gan bob ffermwr.

7.    Daw dau gynllun newydd trwy’r BPS – y Taliad i Ffermwyr Ifanc a’r Taliad Gwyrddu. Bydd Ffermwr Ifanc 40 oed neu lai sy’n sefydlu busnes amaethyddol am y tro cyntaf yn cael taliad chwyddo bychan am hyd at bum mlynedd. Mae’r taliad Gwyrddu ychydig yn fwy cymhleth.  Bydd ffermwyr yn cael taliad am gadw at arferion amaethyddol penodol sy’n amrywio yn ôl sut mae’r tir yn cael ei ffermio. Bydd yr effeithiau’n debygol o fod yn llai yng Nghymru nag yn rhannau eraill o Ewrop gan fod y rhan fwyaf o ffermwyr eisoes yn bodloni’r amodau Gwyrddu am eu bod yn ffermio da byw ar dir pori.

 

8.    Mae Taliadau Gwledig Cymru wedi dweud ers 2014 y bydd y BPS, am y bydd yn rhaid cynnal mwy o archwiliadau yn 2015, yn gorfod cael ei dalu mewn dau randaliad yn y flwyddyn gyntaf. Rydym yn rhagweld y bydd y rhandaliad cyntaf i bob ffermwr yn gyfwerth â rhwng 70% ac 80% o werth bras y taliad llawn a’r bwriad yw talu’r rhandaliadau mor fuan â phosibl yng nghyfnod talu 2015 sy’n dechrau ar 1 Rhagfyr 2015.

 

9.    Ni fyddwn yn gallu talu’r tâl llawn cywir tan y caiff yr holl dir yr hawlir taliad arno yng Nghymru ei ddilysu gan mai dim ond wedi hynny y  gallwn ddweud faint o arwynebedd ohono sydd yng Nghymru at ddiben defnyddio cyllideb yr UE. Caiff yr ail randaliadau eu talu o fis Ebrill 2016.  Bryd hynny, bydd ffermwyr wedi cael gwybod beth fydd gwerth eu hawliau hyd at 2019. 

 

 

10. Mae llawer iawn o waith archwilio cymhleth angen ei wneud, gan gynnwys gwaith mapio ac archwiliadau fferm i gadarnhau bod ffermwyr yn gymwys am y cynlluniau newydd, yn unol â’r rheolau sy’n ofynnol o dan Reoliadau’r UE. Yn ôl rheoliadau’r UE, rhaid cynnal yr holl archwiliadau a’r holl waith dilysu, gan gynnwys croeswirio tir, cyn y gallwn dalu unrhyw beth.   

 

11. Fel y gwyddoch, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn llythyr protocol cyn-weithredu ynghylch Colofn 1 y PAC oddi wrth grŵp o ffermwyr. Rydym wedi ymateb i’r grŵp hwnnw ond gan y gallai arwain at weithredu cyfreithiol, ni fyddai’n briodol dweud mwy ar hyn o bryd.

12. O dan Golofn 2 y PAC, cafodd Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ei chyhoeddi ym mis Gorffennaf. Bydd Llywodraeth Cymru a’r Undeb Ewropeaidd yn buddsoddi arian mawr i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau fydd yn gwneud ein hamgylchedd naturiol, y sector tir, busnesau bwyd a chymunedau yn fwy cynaliadwy a chydnerth. Mae hyn yn cynnwys gwella sgiliau, trosglwyddo gwybodaeth yn well, hybu arloesedd, cynnal coetiroedd a choedwigaeth, diogelu swyddi a threchu tlodi yn ogystal â hybu defnydd effeithiol o adnoddau.

13. Bydd cynllun rheoli tir aml-flynyddol Glastir yn para’n greiddiol i’r pecyn a hwnnw fydd y maes buddsoddi unigol mwyaf. Mae elfennau amrywiol bellach yn fyw a bydd contractau presennol Glastir, a arwyddwyd o dan CDG 2007-2013, yn para o dan RhDG 2014-2020.

14. At hynny, rwyf wedi gwahodd y datganiadau o ddiddordeb cyntaf ar gyfer Grant Cynhyrchu Cynaliadwy newydd – cronfa i helpu busnesau fferm i fod yn fwy cynaliadwy yng ngwir ystyr y gair. Mae Grant Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd newydd hefyd wedi’i greu. Y diwydiant bwyd a diod yw prif gwsmer amaethyddiaeth – ac felly mae cryfhau ei gapasiti yn hanfodol i ddyfodol ein diwydiant amaeth ac i ychwanegu at werth a chwmpas ei gynhyrchion. Mae’n sector hanfodol i Gymru o ran swyddi a thwf yr economi ac mae buddsoddi yn nhwf gwyrdd ein cadwyn gyflenwi ehangach o fudd hefyd i’r sector cynhyrchu cynradd.

15. Bydd ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio yn para’n ganolog i’n cefnogaeth i’r diwydiant. Cyswllt Ffermio, y Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr a Gwasanaeth Cynghori Busnesau Gwledig fydd prif elfennau’n hymdrechion, a byddant yn elwa o’r buddsoddiad ynddynt dros oes y Rhaglen. 

16. Mae gwaith LEADER eisoes wedi dechrau ac mae’r Grwpiau Gweithredu Lleol a’u Strategaethau Datblygu Lleol wedi’u cymeradwyo.

 

Prisiau i ffermwyr a’r argyfwng yn y sector godro

 

17. Rwy’n ymwybodol iawn o’r anawsterau y mae ffermwyr Cymru’n eu hwynebu. Mae lefelau cynhyrchu uchel a chryfder y bunt o’i chymharu â’r Ewro yn golygu na chafwyd amodau ffafriol ers tro. Yn ei anerchiad yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd eleni, dywedodd Comisiynydd yr UE dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, Phil Hogan, yn glir bod angen i ffermwyr yn holl wledydd yr UE wynebu’r dyfodol yn hyderus a chydag uchelgais. Rhaid ffermio’n fwy cynhyrchiol ac effeithlon os ydym am wynebu’r her. Rwy’n llwyr gymeradwyo ei sylwadau.

 

18. Mae’r gadwyn gyflenwi’n dal i fod yn hollbwysig i’r sectorau llaeth a chig coch. Rhaid inni oll weithredu mewn ffordd gyfrifol os ydym am weld y diwydiant yn mynd yn ei flaen. Nid yw hwn yn fater y gall y llywodraeth ymyrryd ar ei phen ei hun ynddo. Rhaid inni weithio gyda’n gilydd.  Yn yr un modd, mae angen i adwerthwyr, proseswyr a defnyddwyr feddwl beth y gallan nhw ei wneud i helpu ffermwyr Cymru.

 

19. Mae’r cwymp ym mhris llaeth wedi arafu ac rwy’n gobeithio nawr y gwelwn y prisiau’n codi eto, ond rydym yn agored i’r prisiau sy’n cael eu talu am gynnyrch llaeth yn y marchnadoedd byd-eang. Rhaid gweithio i fod yn fwy cystadleuol ym marchnadoedd y byd a hefyd ychwanegu at werth cynnyrch llaeth – i’w gwerthu yma a thramor. Rhaid inni barhau i edrych hefyd ar fod yn fwy effeithlon.

20. Mae gan ein ffermwyr godro fanteision real dros ein cystadleuwyr. Rydym yn gallu tyfu porfa, y bwyd rhataf a gorau i wartheg godro ac mae ein system o ffermydd teuluol a maint ein buchesi yn golygu bod gan ddiwydiant godro Cymru gadernid a mantais. Byddwn yn eu helpu i wneud y gorau ohonynt.

 

21. Mae ein harolygiad o’r Sector Llaeth yng Nghymru yn argymell ein bod yn cystadlu ym marchnad y byd. Does dim rheswm yn y byd pam na all Cymru gystadlu â chynhyrchwyr llaeth gwledydd eraill.

 

22. Mae Bwrdd Arwain Llaeth Cymru wedi dechrau gweithio ar roi argymhellion yr Arolygiad o’r Sector Llaeth ar waith. Mae’r astudiaeth o ymarferoldeb cynyddu’r capasiti prosesu llaeth yn y de orllewin hefyd wedi dechrau; rydym wedi penodi contractwr i wneud y gwaith. Mae’n bwysig ein bod yn deall potensial y sector ac yn datblygu marchnad gynaliadwy ar gyfer y cynnydd yn ein cynhyrchiant. Rydym am i fwy o ffermwyr godro ganolbwyntio ar wneud eu busnesau’n effeithlon ac i nodi lle gallent wneud y gwelliannau mwyaf. 

 

23. Roedd yn bleser hefyd cael cyhoeddi’n ddiweddar y bydd ffermwyr Cymru’n derbyn £3.2m trwy becyn cymorth yr UE i’r sector godro. Bydd ffermwyr godro Cymru yn cael taliad untro i’w helpu â’u problemau llif arian ac i’w digolledu am y cyfnod hir o brisiau llaeth isel. Bydd y taliadau’n seiliedig ar faint o laeth a gynhyrchwyd yn 2014-15, gyda chyfartaledd o £1,800 yn cael ei dalu i bob fferm.  Rydym yn gobeithio talu’r arian hwn yn fuan.

 

24. Ar fater arall, mae HCC yn parhau i hyrwyddo Cig Oen Cymru ar hyd ac ar led Cymru a Lloegr ac rwy’n ddiolchgar iawn iddo am ei ymdrechion. Rwyf hefyd yn croesawu’r hyn y mae wedi’i wneud i ddatblygu strategaeth yn benodol ar gyfer y diwydiant cig coch yng Nghymru.  Bydd honno’n helpu busnesau ffermio i fod yn fwy proffidiol mewn ffordd gynaliadwy.

 

25. Nid problem i Gymru nac i’r DU yn unig yw’r prisiau rydym yn eu cael am gig oen y dyddiau hyn.  Mae sector ffermio Ewrop gyfan yn dioddef; felly rhyngon ni, mae angen inni feddwl sut y gallwn helpu amaethyddiaeth i ddygymod ag anwadalwch y farchnad yn well. Rwy’n credu ei bod yn bryd edrych a yw’r cwota mewnforio cig oen i Gymru yn briodol o hyd. Byddwn am i’r Comisiwn Ewropeaidd edrych ar y mater hwn ar fyrder rhag i’r broblem godi eto.

26. Mae’r gadwyn gyflenwi’n hanfodol i lwyddiant y diwydiant cig coch yng Nghymru a thu hwnt.  Ac er mwyn iddi fod yn llwyddiannus, rhaid i bob aelod chwarae ei ran yn gyfrifol. Mae’n dda darllen bod archfarchnadoedd y DU yn gwerthu mwy a mwy o gig coch o Gymru (a Phrydain), ond rwy yn credu y gallai mwy gael ei wneud.

 

Bwyd a Diod

 

27. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae gan y sector ffermio a bwyd drosiant o £5.8 biliwn sy’n golygu ei fod eisoes wedi tyfu 11.5% ers 2012-13.  Mae gweithgynhyrchu bwyd ar ei ben ei hun yn ddiwydiant pwysig i Gymru, gyda throsiant o £4.3 biliwn yn 2014. Rydym hefyd wedi sicrhau buddsoddiad o £10.8 miliwn mewn busnesau newydd yn 2014/15 gan ddiogelu dros 1,365 o swyddi a chreu 450 o swyddi newydd mewn bwyd.

 

28. Fel y dywedais yn gynharach, mae’r Grant Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd hefyd wedi dechrau. Swyddi yn y sector bwyd fydd ffocws y cynllun hwn a bydd yn helpu i greu cynnyrch arloesol, yn annog cydweithio ar brosiectau bwyd arloesol ac yn cynnig help sy’n benodol i’r sector.  Rydym eisoes wedi derbyn dros 100 o ymholiadau gan fusnesau ers lansio’r cynllun.

 

29. Er mwyn helpu i fynd â’r sector yn ei flaen, rydym bellach yn aelodau llawn o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru. Dyma bartneriaeth rhwng y llywodraeth a diwydiant a bydd y Bwrdd yn rhoi cyfeiriad strategol i Lywodraeth Cymru ar gyfer rhoi’r cynllun gweithredu ar waith. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Polisi Bwyd gyda chynrychiolwyr pob Gweinidog yn aelodau ohono i sicrhau synergedd a chysondeb rhwng polisïau ac i helpu i roi’r cynllun gweithredu ar waith.

30. Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau eleni i ddathlu’r cynnyrch gorau o Gymru, gan gynnwys dathlu llwyddiant enillwyr Gwobrau’r Gwir Flas llynedd. Cafodd 174 o wobrau’r Gwir Flas eu dyfarnu i gynnyrch o Gymru eleni, gyda deg o’r rheini’n teilyngu’r wobr 3 seren. Yn y gystadleuaeth eleni, gwelwyd 25% yn fwy o ymgeiswyr o Gymru. O dan faner Bwyd a Diod Cymru, rydym newydd gynnal taith i bobl sy’n ysgrifennu am fwyd o gwmpas Cymru, lle cafodd bwyd a diod gorau Cymru (statws PFN) eu rhoi o’u blaenau.

 

31. Gyda’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, rwyf hefyd wedi lansio Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd ar gyfer 2015-2020. Ei brif sylw yw sicrhau, er lles ein heconomi, bod mwy o fwyd lleol a rhanbarthol yn ymddangos yn ein siopau ac ar ein bwydlenni. Rydym yn buddsoddi dros £2.5 miliwn yn y ddwy flynedd nesaf i sicrhau bod gan Gymru bresenoldeb amlwg o hyd mewn cyfres o sioeau masnach Prydeinig a Rhyngwladol pwysig. Gwnaeth y sioeau masnach hyn yn 2014/15 esgor ar bron £6 miliwn o fusnes ychwanegol i gwmnïau o Gymru, a gwerth dros £16 miliwn o gyfleoedd ychwanegol.

 

32.  Mae Fforwm Categori Bwyd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi bod yn gweithio hefyd ar Strategaeth Fwyd gan ddechrau ar broses i gaffael bwyd ar gyfer Sector Cyhoeddus Cymru. Bydd y lotiau cyntaf yn dechrau ar 1 Chwefror 2016 ac yn dechrau gyda Brechdanau Parod, Llenwadau Brechdanau a Phrydau ar Blat wedi’u Rhewi. 

 

33. Rydym wedi dechrau gweithio hefyd ar hyrwyddo ein Siarter Datblygu Cynaliadwy a Cymru Effeithlon ymhlith cynhyrchwyr bwyd a diod. Rydym yn parhau i hyrwyddo bwyd a diod iach mewn ysgolion ac yn dechrau gweithio ar strategaeth bwyd a maetheg ar y cyd â’r Adran Addysg.

 

Ffermio Organig

34. O safbwynt cynhyrchu organig, mae’n dda gennyf ddweud i Gyfeiriad Cyffredinol y Rheoliad Organig Ewropeaidd newydd gael ei dderbyn trwy bleidlais y mwyafrif yn y Cyngor Amaeth a Physgodfeydd yn Luxembourg ym mis Mehefin. Caiff manylion y Cyfeiriad eu datblygu a’u negodi pan gyflwynir y rheoliadau gweithredu a byddaf yn parhau i weithio gyda dirprwyaeth y DU i sicrhau nad yw ffermwyr organig Cymru’n dioddef unrhyw anfantais oherwydd y rheoliadau newydd.

 

35. Fel rwyf eisoes wedi’i ddweud, mae Glastir Organig wedi dechrau, gyda thros 500 o gontractau Glastir Organig yn dod yn fyw yn gynharach eleni. Daeth cyfnod ymgeisio newydd Glastir Organig i ben ar 2 Medi ac yn y cyfnod hwnnw daeth 84 o geisiadau i law. Yr hyn oedd yn galonogol oedd bod 61 o’r ceisiadau hynny gan ffermwyr oedd yn newydd i gynhyrchu organig. Mae hyn yn cyfiawnhau fy mhenderfyniad i ddechrau’r cyfnod ymgeisio cyn cymeradwyo’r Rhaglen Datblygu Gwledig am ei fod wedi sefydlogi nifer y ffermwyr organig yng Nghymru a cheir rhai arwyddion bellach bod y sector yn tyfu.

 

 

 

 

 

 

Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth

36. Gofynnodd y Pwyllgor imi am y diweddaraf am y Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth. Yn unol â’r ymatebion i’r ymgynghoriad, bydd gan y Panel ddeg o aelodau a Chadeirydd. Bydd Undebau’r Ffermwyr ac UNITE yn cael bod yn aelodau’n awtomatig ond caiff yr aelodau annibynnol, gan gynnwys y Cadeirydd annibynnol, eu dewis trwy’r broses penodiadau cyhoeddus. Cefnogir gwaith y Panel gan is-bwyllgor parhaol sy’n gyfrifol am roi cyngor ar ddatblygu gyrfa a sgiliau. Bydd y broses penodiadau cyhoeddus yn dechrau ar 23 Hydref 2015 a disgwylir i’r Panel fod yn ei le erbyn dechrau 2016.

 

37. Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus dros yr haf ar y Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol.  Roedd mwyafrif yr ymatebion o’i blaid. Fy mwriad yw gweld y Gorchymyn yn codi cyflogau gweithwyr Gradd 2-6 a chategorïau eraill ryw 6%, sy’n gyfwerth â 2% o godiad bob blwyddyn rhwng 2012 a 2015. Yn y gorchymyn cyflogau newydd, codir cyflogau Gradd 1 i 2c uwchlaw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.  Disgwylir i’r Gorchymyn ddod i rym ym mis Rhagfyr 2015 gan bara mewn grym tan y caiff gorchymyn cyflogau newydd ei wneud ar sail argymhellion y Panel. 

Lles Anifeiliaid

38. Cyhoeddais Gynllun Gweithredu cyntaf y Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid ym mis Gorffennaf 2015 gan bennu blaenoriaethau’r flwyddyn a’r prif gamau ar gyfer eu gwireddu, yn unol â chytundeb Llywodraeth Cymru a Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Mae’r blaenoriaethau hyn yn cyfrannu at sicrhau’r canlyniadau strategol. Mae’r cynllun yn nodi’r meysydd polisi sydd wrthi’n cael eu datblygu ac a fydd yn cael eu hadolygu a’u diweddaru gydol y flwyddyn.

39. Mae’r Grŵp wedi’i gwneud yn flaenoriaeth sicrhau yr eir i’r afael â phob agwedd ar y Fframwaith mewn ffordd gytbwys. I sicrhau hynny, mae’r Grŵp wedi cadarnhau er bod cysylltiadau da o fewn y sector da byw, bod angen gwneud mwy i gryfhau’r cysylltiadau â’r sector lles. Mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen ac mae cyfarfod adeiladol eisoes wedi’i gynnal â Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru i fynd â’r maen i’r wal.

40. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ailasesu’r berthynas a’r ffordd o weithio â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), gan gynnwys gwella llywodraethiant, trefniadau cyllido, eu cymorth polisi a’r Concordat Iechyd a Lles Anifeiliaid newydd sydd wedi’i lofnodi gan holl Weinyddiaethau’r DU.

41. Mae Llywodraeth Cymru’n aelod o weithgor sy’n gwerthuso’r gweithdrefnau rhwng Gweinyddiaethau gwahanol y DU ac â’r APHA i wella llywodraethiant, tryloywder ariannol a ffyrdd cyffredinol o weithio. Mae’n bwysig rhoi blaenoriaethau Cymru ar waith mewn ffordd gost effeithiol. Yr un pryd, mae’n hanfodol sicrhau bod blaenoriaethau er budd iechyd a lles anifeiliaid Cymru’n cael eu rhoi ar waith yn effeithiol a bod lefel o gydnerthedd ar draws y DU i ddelio’n effeithiol ag unrhyw achos o glefyd egsotig ar anifeiliaid yn y dyfodol.

TB Gwartheg

 

42. Ym mis Mehefin 2015, roedd bron 95% o fuchesi Cymru heb TB.  Mae’r duedd gyffredinol o ran achosion newydd a nifer yr anifeiliaid sy’n cael eu difa i reoli TB yn fras yn mynd am i lawr. Rhwng 2008 a 2014, gwelwyd 29% o ostyngiad yn nifer yr achosion newydd a gostyngiad o 44% yn nifer yr anifeiliaid gafodd eu difa.

 

43. Rydym wedi cyhoeddi dangosfwrdd TB i gyhoeddi data mewn ffordd weledol a hawdd ei deall, gan nodi’n taith at ddileu TB fesul chwarter. Mae pedwaredd flwyddyn y prosiect brechu moch daear yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yn mynd rhagddi. Hyd yma, mae pum cylch brechu wedi’u cynnal; ac mae 841 o foch daear wedi’u brechu. Cafodd 1,316 eu brechu yn 2014, 1,352 yn 2013 a 1,424 yn 2012.

 

44. Rwyf hefyd newydd benderfynu newid ein deddfwriaeth er mwyn inni gael gyhoeddi gwybodaeth am leoliad buchesi TB, er mwyn i bobl allu cymryd y camau priodol i amddiffyn eu hanifeiliaid a dysgu pobl am y risg o brynu anifeiliaid â haint cudd arnynt. 

 

45. Byddwn yn parhau i gadw at ein system bresennol ar gyfer pennu iawndal TB a bydd fy swyddogion yn cyflwyno mesurau a fydd yn cosbi ffermwyr gwartheg sy’n dilyn arferion drwg. Mae ein hymgynghoriad – sy’n para tan 6 Tachwedd – yn gofyn faint o iawndal y dylem ei dalu pan welir bod arferion drwg wedi cyfrannu at ledaenu TB.

 

46. Mae’r rhaglen Cymorth TB i filfeddygon wrthi’n cael ei gyflwyno ledled Cymru ac yn rhoi mwy o ddewis i ffermwyr. Rydym hefyd wedi datblygu rhaglen hyfforddi achrededig fel rhan o Cymorth TB i filfeddygon ar y cyd â’r APHA a’r darparwr hyfforddiant Improve International. Mae’r hyfforddiant dwyieithog yn cael ei gyflwyno’n raddol yr hydref hwn ac rydym yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer cynnal 300 o unedau hyfforddi gyda’r gobaith y bydd pob milfeddygfa a’r rhan fwyaf o filfeddygon yn y wlad yn ennill cymwysterau Cymorth TB. 

EID Cymru

 

47. Ar drywydd gwahanol, bydd EIDCymru yn helpu ffermwyr a rheolwyr tir Cymru i gynyddu’u helw trwy drefniadau adrodd mwy effeithlon ac i gael at fwy o ddata. Bydd EIDCymru yn cael ei ddefnyddio o fis Tachwedd mewn marchnadoedd da byw a lladd-dai i wneud yn siŵr fod y system yn gweithio’n effeithlon mewn mannau sy’n trin llawer o anifeiliaid. Bydd pob ceidwad defaid yn gorfod gweithredu’r system newydd yn llawn ym mis Ionawr 2016, hynny i gyd-fynd â’r newid arfaethedig i’r ddeddfwriaeth Cofnodi, Adnabod a Symud Defaid a Geifr (SAGRIMO).

 

48. Rydym am fynd ati i roi EIDCymru ar waith mewn ffordd strategol a rheoledig, gan ddysgu gwersi’r Animal Recording and Movement Service (ARAMs) yn Lloegr. Rhaid i’r system allu trosglwyddo rhifau tagiau clust a manylion daliadau i’r System Trwyddedu Symudiadau Anifeiliaid, sef cronfa ddata ganolog symudiadau anifeiliaid Cymru, Lloegr a’r Alban. Rydym wedi llofnodi contract gyda’r Asiantaeth Taliadau Gwledig a’u contractwyr TG i ddarparu’r gofynion hyn inni yn unol â’n hamserlen. Bydd EIDCymru yn cyfnewid data am symudiadau trawsffiniol â chronfa ddata symudiadau defaid Defra, ARAMs.  Mae swyddogion yn cydweithio’n glos â chontractwr Defra, South Western, i wneud hyn.

Deddf Tir Comin 2006

49. Yn ogystal, rydym wedi cyflwyno deddfwriaeth arwyddocaol hefyd i amddiffyn tir comin ac i hyrwyddo ffermio cynaliadwy, mynediad i’r cyhoedd at gefn gwlad a buddiannau natur.

50. Y flaenoriaeth ar gyfer rhannau eraill y Ddeddf Tir Comin yw galluogi ceisiadau i gywiro camgymeriadau a datgofrestru tiroedd comin sydd wedi’u cofrestru trwy gamgymeriad. Rwy’n gobeithio y bydd yr elfennau hyn mewn grym erbyn haf 2016. Rydym wrthi hefyd yn datblygu system ffioedd ar gyfer ceisiadau o dan Ran 1 y Ddeddf, sefydlu Cofrestrau Tir Comin Electronig a sefydlu Cynghorau Tir Comin.

 

Rebecca Evans AC
Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Hydref 2015